Gweud y gwir, ma sawl gêm a sioe i'w ffangyfieithu, ond sdim llwyth o amser gida fi. Yn anffodus, dyw'r galw am geme na fideos IwTiwb yn Gymrâg ddim yn ddigon mawr imi jesd...mynd amdani, tmod? Ma cyfieithu geme a sioeau'n cymryd amser... Ond, pan fo ddigon o amser 'da fi, hoffwn witho ar y prosiecte canlynol:
Ma'r gêm 'ma mor fyr, ond ma'n arswydus iawn ac ma'r prif atyniad (sef Ramblo'r Racŵn, masgot electronig parc thema'r gêm) mor bert...! Bydde cyfieithu'r gêm 'ma'n gyfle da i ddysgu cyfieithu [a throsleisio!] deialog miwn geme hefyd. Gida Phennod 2 yn dod cyn bo hir, ma'n rhaid imi witho ar hon cyn gynted er mwyn elwa ar y sylw tuag ati...!
Talpŷn Ciw Iar o'dd un o'n fy nhroen cinta fi'n cyfieithu sioe animeiddiedig. O'dd yn neis i witho arni, ond rwy'n barod i'w stopio nawr... Bydd rhaid imi symud i Wlad Belg cyn hir (fel blwyddyn tramor fel rhan o'n cwrs prifysgol) felly hoffwn i bennu hi cyn hynny. Yn ogystal â hynny: ma neud Talpŷn yn dipyn ddrud gidag enillion lleihaol: heles i £1,000~ arni a do'dd dim llwyth o sylw heb ei hysbysebu, ond falle bydda i'n hysbysebu hi ar Golwg pan rwy'n ôl yn y brifysgol ac yna creu ffangymuned ar Discord iddi...bydde hynny'n helpu rhoi mwy o sylw i brosiecte eraill fi, 'fyd!
Fel wedeshi'n gynharach, ma sawl gêm sy'n gallu ca'l ei chyfieithu i'r iaith, ond dim llwyth o amser na phobol nag adnodde i'w chyfieithu...er enghrefft, un o fy hoff geme yw Night in the Woods gafodd ei chyfieithu i Rwsieg a Chorëeg yn llawn tipyn yn ôl... Yn anffodus, ma'r adnodde cyfieithu ar ga'l yn Rwsieg a Chorëeg yn unig achos nhw yw rhai o'r ieitho'dd mwya' heb gysylltiad ieithyddol i'r Sisneg; felly, fel rhywun sy ddim ond gallu deall Cymrâg, Ffrangeg, Iseldireg a Siapaneg, bydde'n anodd iawn imi ddal yr adnodde 'ma. Dyw gallu siarad Sisneg Cymru ddim yn gymorth enfawr chwaith pan ma'n dod i ga'l geme'n Gymrâg: oherwydd y diffyg rhwystro ieithyddol, bydd y rhan fwya o Gymry'n ware'n Sisneg ta beth. Ond, yn bwysica: ma gormod i'w gyfieithu? Dwles i ar A Short Hike, sy' gida'r adnodde i'w chyfieithu yn rhad ac am ddim gan y datblygwyr swyddogol, ond bydde'n cymryd mor hir i'w chyfieithu (ma oleia dros 10,000 o eirie i'w chyfieithu bydde'n werth talu oleia £600 i gyfieithydd proffesiynol)...
Yn ôl